Class Central is learner-supported. When you buy through links on our site, we may earn an affiliate commission.

The Open University

Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

The Open University via OpenLearn

Overview

Google, IBM & Meta Certificates – 40% Off
One plan covers every Professional Certificate on Coursera.
Unlock All Certificates
Mae oedraniaeth yn cyfeirio at y ffordd y byddwn yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn tuag at bobl ar sail eu hoed. Gall oedraniaeth cael ei gyfeirio at unrhyw grŵp oedran. Mae oedraniaeth i’w gael yn ein sefydliadau, yn ein perthnasoedd â phobl eraill a hyd yn oed yn y ffordd y gwelwn ein hunain. Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar oedraniaeth tuag at bobl hŷn, gan ystyried y stereoteipiau, y rhagfarnau a’r camwahaniaethu sy’n eu hwynebu, a’r effaith y gall y rhain ei chael.Mae oedraniaeth mor gyffredin fel nad oes neb yn sylwi ar y peth yn aml. Bwriad y cwrs hwn ydy eich helpu chi i adnabod oedraniaeth a deall sut i ymateb. Byddwch chi’n dysgu am agweddau allweddol ar gyfraith y Deyrnas Unedig sy’n gwarchod pobl rhag oedraniaeth, dyletswyddau cyfreithiol y sector cyhoeddus yng Nghymru, a’r camau ymarferol y gallwch eu cymryd fel unigolyn i herio oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed.Mae’r cwrs hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru, ond mae modd ei gyrchu yn rhad ac am ddim ac mae’n werthfawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed.Cafodd y cwrs hwn ei ddatblygu ar y cyd â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae fersiwn drwy gyfrwng y Saesneg ar gael hefyd. / An English version is also available. Cwblhewch y cwrs hwn i dderbyn y bathodyn am ddim hwn gan y Brifysgol Agored! Gellir arddangos y bathodyn, ei rannu a'i lawrlwytho i nodi eich llwyddiant. Dyfernir y bathodyn am gwblhau'r cwrs a phasio'r cwisiau.

Syllabus

  • Cyflwyniad
  • Deilliannau dysgu
  • Beth yw oedraniaeth a pham mae’n bwysig?
  • 1.1 Stereoteipio a rhagfarn
  • 1.1.1 Iaith
  • 1.1.2 Delweddau
  • 1.1.3 Goblygiadau
  • 1.1.4 Oedraniaeth wrthwynebol neu oedraniaeth gyfeillgar
  • 1.2 Rhagfarn ddiarwybod
  • 1.3 Gwahaniaethu ar sail oedran
  • 1.4 Effeithiau oedraniaeth
  • Gwahaniaethu ar sail oedran a chyfraith y DU
  • 2.1 Deddf Cydraddoldeb 2010
  • 2.2 Amddiffyniad rhag gwahaniaethu ar sail oedran
  • 2.3 Eithriadau
  • 2.4 Cyfiawnhad gwrthrychol
  • 2.5 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
  • 2.5.1 Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar waith
  • 2.5.2 Dyletswyddau penodol yng Nghymru
  • 2.6 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Gweithredu yn erbyn oedraniaeth
  • 3.1 Herio oedraniaeth
  • 3.1.1 Yn y cyfryngau
  • 3.1.2 Yn y gweithle
  • 3.1.3 O fewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • 3.1.4 Mewn gwasanaethau i ddefnyddwyr
  • 3.2 Astudiaethau achos ac adnoddau defnyddiol
  • Casgliad
  • Cyfeiriadau
  • Cydnabyddiaethau

Reviews

Start your review of Oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran

Never Stop Learning.

Get personalized course recommendations, track subjects and courses with reminders, and more.

Someone learning on their laptop while sitting on the floor.